Mae Sarah McBride (ganwyd 9 Awst1990) yn weithredwr hawliau LGBT Americanaidd a ffigwr gwleidyddol. Yn 2017 roedd hi'n Ysgrifennydd Cenedlaethol y Wasg o'r Ymgyrch Hawliau Dynol.[1][2] Cyrhaeddodd McBride benawdau'r papurau cenedlaethol pan ddatgelodd ei bod yn fenyw drawsryweddol tra roedd yn y coleg, wrth iddi wasanaethu fel llywydd corff myfyrwyr ym Mhrifysgol America.[3]
Mae McBride yn cael y clod i raddau helaeth am newid deddfwriaeth Delaware: yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hunaniaeth rhyw mewn cyflogaeth, tai, yswiriant a llety cyhoeddus.[4][5] Yng Ngorffennaf 2016, roedd yn siaradwr yn y Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd, gan ddod y person trawsryweddol agored cyntaf i fynd i'r afael â chonfensiwn plaid fawr yn hanes America.[6][7][8][9]
↑"Staff". Human Rights Campaign. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016.
↑"Sarah McBride". Human Rights Campaign. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-17. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016.